Amcangyfrifir y bydd 1 o bob 4 plentyn yn profi anawsterau cysgu ar ryw adeg. Mae problemau cysgu’n fwy cyffredin ymhlith plant ag anghenion ychwanegol fel Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) ac Awtistiaeth.

Gellir categoreiddio problemau cysgu yn dri grŵp:

  1. Problemau disgyn i gysgu – dyma pryd mae’ch plentyn yn cymryd amser hir i fynd i gysgu, yn ogystal ag anawsterau o ran cyd-gysgu (rhannu gwely gyda rhiant/rhieni).
  2. Deffro yn ystod y nos – Dyma pryd mae’ch plentyn yn deffro llawer drwy’r nos.
  3. Deffro’n gynnar yn y bore – deffro’n gynnar cyn 06:00.

Hylendid cwsg – ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio set o arferion ymddygiadol ac amgylcheddol, sydd naill ai’n ein helpu i syrthio i gysgu neu’n peri i ni gael trafferth wrth fynd i gysgu.

  • Mae hyn yn golygu cadw at gynllun rheolaidd, gyda’r nod o gael o leiaf 6-9 awr o gwsg bob nos. Mae hyn yn allweddol i gadw ‘rhythm circadaidd’ rheolaidd (cylch cysgu naturiol ein cyrff). Mae cadw at fynd i’r gwely yn rheolaidd (hyd yn oed defnyddio larwm dros y penwythnos i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei ddilyn drwy’r amser), yn bwysig iawn.

  • Mae cadw trefn dda cyn gwely yn hanfodol er mwyn helpu i ymdawelu’n ystod y nos.
  • Peidiwch â defnyddio golau glas ormod. Mae hyn yn golygu sgriniau ffôn, sgriniau teledu, a sgriniau cyfrifiadur. Mae golau glas yn gwneud i’n corff feddwl ei fod yn dal yn ddydd ac yn ein cadw’n effro. Mae diffodd sgriniau awr cyn mynd i’r gwely yn helpu’r corff i ymdawelu, ymlacio a theimlo’n flinedig.
  • Gall bath helpu i ymlacio’r corff yn barod i gysgu cyn gwely, ond gall cawod ddeffro’r corff gan ei fod yn annog mwy o lif gwaed o amgylch y corff gan wneud yr hormon cwsg (melatonin) yn llai effeithiol.
  • Glanhau neu orchuddio annibendod (teganau a gemau er enghraifft) gan wneud yr ystafell wely yn lle tawel, lle gall eich plentyn ymlacio heb gael ei sylw wedi’i dynnu, gan ei helpu i ymdawelu i gysgu.

  • Gall ymarfer corff chwarae rhan fawr yn eich cynllun cwsg. Ceisiwch ymarfer corff o leiaf 3 awr cyn i chi gynllunio cysgu am tua 30 munud (ymarfer corff bore neu ddydd yw’r gorau). PEIDIWCH ag ymarfer corff yn agos at amser gwely gan y bydd hyn yn atal eich corff rhag ymdawelu ac ymlacio yn barod i gysgu
  • Gall ymarfer corff yn ystod y dydd fod yn fuddiol iawn, gan helpu gyda chwsg. Mae ymchwil yn dangos i ni fod meddwl iach yn gysylltiedig ag ymarfer corff yn rheolaidd, a gall meddwl iach arwain at gwsg iach.

  • Mae’r hyn rydyn ni’n ei roi yn ein cyrff yn effeithio ar sut rydyn ni’n cysgu. Gall yfed diodydd caffîn pefriog ein hatal rhag ymdawelu yn y nos, gan effeithio ar ba mor dda yr ydym yn cysgu. Llaeth cynnes, sudd ffrwythau neu ddŵr sydd orau- osgowch siocled poeth gan ei fod yn cynnwys caffîn.
  • Gall mynd i gysgu gyda stumog lawn hefyd ein hatal rhag cysgu’n iawn, gall mynd i gysgu’n llwglyd hefyd ein hatal rhag cael noson dda o gwsg. Gall swper ysgafn tua awr cyn mynd i’r gwely helpu. Mae bananas, powlen fach o uwd, llond llaw bach o almwns (dim almwns os oes gan eich plentyn alergedd cnau) i gyd yn fwydydd a all helpu gyda chwsg.