Deprecated: Optional parameter $obj_array declared before required parameter $key is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1140

Deprecated: Optional parameter $post_id declared before required parameter $file_id is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1462
Presgripsiynau – CYPF Cymraeg

Y Broses o Archebu Presgripsiwn

Mae’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn defnyddio platfform ar-lein i chi wneud cais am bresgripsiynau rheolaidd ar gyfer eich plentyn.

Sut i wneud cais am bresgripsiynau ar-lein:

Mewngofnodwch i’n porth diogel ar-lein

Llenwch y wybodaeth ofynnol a chyflwyno’ch cais.

  • Caniatewch 5 diwrnod gwaith i’ch cais am bresgripsiwn gael ei brosesu.
  • Byddwch yn derbyn neges destun pan fydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu, dewch â cherdyn adnabod (ID) wrth gasglu’r presgripsiwn.
  • Os ydych yn glaf yng Nghaerdydd, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Dewi Sant
  • Os ydych yn glaf yn y Fro, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Llandochau
  • Nod y broses hon yw gwella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y profiad o ddosbarthu’r presgripsiwn mor gyfleus a didrafferth â phosibl.

Gofynion Presenoldeb mewn Clinig Arsylwi:

Mae’r clinigau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth fonitro cynnydd y plentyn/person ifanc ac addasu eu cynllun triniaeth yn unol â hynny. Gall peidio â mynychu arwain at y canlyniadau canlynol:

Peidio â chyflwyno’r presgripsiwn: Gall peidio â mynychu’r clinigau arsylwi gofynnol arwain at oedi wrth gyflwyno presgripsiwn.

Rhyddhau’r claf: Gall peidio â mynychu am gyfnod hir heb reswm arwain at ryddhau’r plentyn/person ifanc o’n gwasanaethau.

Clinigau Arsylwi sydd ar y gweill:

Byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ar gyfer pob clinig arsylwi, gan roi amser i chi drefnu eich apwyntiadau.

Os ydych yn cael unrhyw drafferthion gyda’r system gwneud cais am bresgripsiwn electronig neu os oes angen eglurhad arnoch o amserlenni’r clinigau arsylwi, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 02921 836789.