Gallai fod angen cymorth emosiynol ar blant a phobl ifanc am nifer o resymau, ni waeth beth yw eu hoedran.

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol, mae gennym adnoddau i’ch helpu chi i gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u niwroddatblygiad.

Gall gweithwyr proffesiynol hefyd gysylltu â’r Pwynt Mynediad Unigol i gael cyngor ar Niwroddatblygiad – dysgwch fwy yma.

Mae gennym hefyd restr A-Y o adnoddau ar gyfer rhieni a phobl ifanc.

Mae’r dudalen hon wrthi’n cael ei datblygu. Os oes gennych unrhyw syniadau neu adnoddau yr hoffech eu rhannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rhieni, gofalwyr a niwroddatblygiad

Er ein bod yn cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc dan 18 oed, rydym yn cydnabod y gall yr oedolion yn eu bywydau hefyd fod yn wynebu eu heriau eu hunain.

Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i oedolyn ym mywyd y plentyn/person ifanc, rydym yn argymell y canlynol:

Adnoddau ac apiau ar-lein

Rydym wedi darparu adnoddau isod fel man cychwyn. Gallwch gysylltu â ni os oes gennych adnoddau ychwanegol i’w rhannu neu os oes pynciau yr hoffech glywed mwy amdanynt.

Nid yw’r adnoddau, yr apiau a’r llinellau cymorth hyn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir yn wahanol):

  • Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys allanol a grybwyllir ar y wefan hon.
  • Dylech bob amser ddarllen Telerau ac Amodau a Pholisi Preifatrwydd ap i weld sut y gallai eich data gael ei ddefnyddio.

Addysg ac ysgolion

Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn treulio llawer o amser yn eu hysgol – felly mae’n bwysig bod yr amgylcheddau hyn yn ddiogel, yn groesawgar ac yn cefnogi eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Rydym yn argymell bod staff ysgolion yn darllen y ddogfen ganlynol i ddeall eu cyfrifoldeb wrth adolygu eu tirwedd lles eu hunain ac i helpu i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau.

Mae Cymuned Addysg Barnardo’s wedi cael ei datblygu i gysylltu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg ar draws y Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion, Addysg Bellach a Phrifysgolion.

Yn addas ar gyfer staff ysgolion cynradd ac uwchradd.

Awgrymiadau a chyngor ar ddefnyddio dulliau PACE wrth gyfathrebu â phlant a phobl ifanc wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol.

Yn addas ar gyfer staff ysgolion cynradd ac uwchradd.

Elusen genedlaethol yw Family Links sy’n ymroi i hybu iechyd emosiynol yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith.

Mae’r elusen yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd, staff ysgolion a phrifysgolion, a gweithwyr yn y gweithle.

Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan.

Cyngor da i staff ysgol ar y pynciau canlynol:

  • Gorbryder
  • Hyder a hunan-barch
  • Anawsterau rheolaeth emosiynol
  • Hwyliau isel
  • OCD
  • Mudandod dethol
  • Hunan-niweidio
  • Hylendid cwsg

Rhestr gyfeirio o strategaethau ymarferol i staff ysgolion cynradd ac uwchradd, i’w defnyddio wrth ystyried cymorth ehangach i ddysgwr yn ystod y cyfnod pontio.

Mae’n bwysig iawn bod dysgwyr yn pontio mewn ffordd gadarnhaol – dysgwch fwy yma.

Mae poster i bobl ifanc hefyd ar gael yma.

Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arferion gwybodus am drawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.

Rheoli emosiynau

Adnodd ar gyfer staff addysg – wedi’i gynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc i reoleiddio.

Gemau a gweithgareddau i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i gysylltu a meithrin perthnasoedd.

Lles Emosiynol

Mae llawer o adnoddau cyffredinol ar gael i ddysgu mwy am les emosiynol.

Mae Bridge the Gap yn cynnig adnoddau am ddim i rieni a gofalwyr i gefnogi lles plentyn.

Maent hefyd yn cynnig cwrs am ddim sy’n rhoi gwybodaeth am sut i gadw plentyn yn ddiogel mewn argyfwng. Gellir gwneud hyn yn eich amser eich hun trwy wylio cyfres o fideos.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio fframwaith cysyniadol sy’n rhoi darlun o’r berthynas rhwng lles unigolyn a chymuned ac elfennau allweddol sy’n dylanwadu ar les ar bob lefel.

Gallwch ddarllen mwy yma.

Gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ynghylch iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Maent hefyd yn darparu llinell destun ar gyfer pobl ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl a llinell gymorth i rieni a gofalwyr.

Teulu

Gall problemau neu heriau sy’n wynebu teulu effeithio ar blant a phobl ifanc. Dyma rai adnoddau a allai helpu.

Gall rhieni a gofalwyr ddarllen mwy am y cymorth sydd ar gael iddynt yma.

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol am ystod o bynciau a allai effeithio arnyn nhw a’u teulu.

Mae enghreifftiau’n cynnwys hunan-barch isel, perthynas deuluol a phrofedigaethau

Ble bynnag mae teulu’n byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnyn nhw ac yn asesu eu hanghenion. Byddan nhw naill ai’n cefnogi’r teulu’n uniongyrchol neu’n eu cyfeirio at wasanaeth a all eu helpu gydag anghenion penodol.

Dysgu mwy am les emosiynol ac iechyd meddwl

Rydym wedi dod o hyd i gyrsiau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol i chi os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd

Cwrs am ddim i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Wedi’i ddatblygu i roi gwybodaeth i rieni a gofalwyr i gadw eu plentyn yn ddiogel mewn argyfwng.

Gellir gwneud y cwrs hwn yn eich amser eich hun trwy gyfres o fideos.

Cyngor a gwybodaeth i’ch helpu i ddeall sut y gall problemau ddigwydd, sut y gall rhieni/gofalwyr gefnogi eu teulu orau a sut i ofalu amdanynt eu hunain, wedi’u lunio gan arbenigwyr a rhieni yn gweithio gyda’i gilydd.

Gofalu am eich lles eich hun

Fel gweithiwr proffesiynol sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd, mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn cymryd amser i ofalu am eich lles eich hun.

Mae HOPELINK UK nid yn unig ar gyfer pobl ifanc sy’n ystyried hunanladdiad, neu’r rhai sy’n pryderu amdanynt. Mae yma hefyd i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd wedi cael profiad o hunanladdiad ac a hoffai siarad am y profiad gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig.

Bydd rhai proffesiynau yn profi datgeliadau o feddyliau hunanladdol yn amlach na phroffesiynau eraill, ac mae’n bwysig bod pobl yn y proffesiynau hyn yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ofalu amdanynt eu hunain pe bai rhywun yn siarad â nhw am feddyliau hunanladdol.

Gall unrhyw un fanteisio ar y gwasanaeth ôl-drafodaeth, a byddem yn annog pawb i gysylltu â ni i drafod ar ôl iddynt gael profiad o hunanladdiad.

I drafod gydag un o’n ymgynghorwyr atal hunanladdiad, ffoniwch HOPELINEUK ar 0800 068 4141, tecstiwch 07860 039967 neu anfonwch neges e-bost pat@papyrus-uk.org bob dydd o’r flwyddyn rhwng 9am a hanner nos.

Pecyn cymorth ymarferol sy’n cynnwys gwybodaeth, adnoddau a gwybodaeth ymarferol arbennig i gefnogi timau ac unigolion i ffynnu.

Cyngor da i staff ar ofalu am eu hunain yn y cartref a’r ysgol.

Diogelwch a Diogelu

Trwy Domestic Abuse, Recovering Together (DART), gall plant a mamau siarad â’i gilydd am gam-drin domestig, dysgu cyfathrebu ac ailadeiladu eu perthynas.

Dros ddeg wythnos, mae mamau a phlant 7-14 oed yn cyfarfod am sesiwn grŵp wythnosol am ddwy awr. Mae plant a mamau yn gweithio gyda’i gilydd am awr ar ddechrau’r grŵp, ac yna’n cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn grwpiau ar wahân. Ar ddiwedd pob sesiwn, maen nhw’n ymuno â’i gilydd unwaith eto.

Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bostio help@nspcc.org.uk

Mae InCtrl yn rhaglen grŵp i gynyddu gwydnwch digidol plant, gwella eu lles emosiynol a sicrhau bod ganddynt rwydweithiau cymorth cymdeithasol a theuluol effeithiol i helpu i’w cadw’n ddiogel.

Mae’r grwpiau’n cynnwys 3 i 8 o gyfranogwyr ac yn para hyd at 9 wythnos. Rydym yn datblygu cytundeb grŵp clir i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gyfforddus yn rhannu eu meddyliau a’u teimladau am bynciau megis caniatâd, diogelwch ar-lein, perthynas iach a hunan-barch.

Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bostio help@nspcc.org.uk

Nod Letting the Future In (LTFI) yw helpu plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin rhywiol i ailadeiladu eu bywydau.

Rydyn ni’n cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 4 ac 17 oed fel eu bod yn gallu gwella o’r effaith mae camdriniaeth wedi’i chael ar eu bywydau. Gellir hefyd atgyfeirio plant neu bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu hyd at 19 oed.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda thair neu bedair sesiwn wythnosol i ymarferwyr asesu anghenion y plentyn a dewis ymyriadau therapiwtig priodol.

Gwahoddir plant a phobl ifanc i fannau therapiwtig diogel lle gallant gyfarfod ag ymarferydd hyfforddedig a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwarae anniben, ysgrifennu, adrodd straeon a chelf. Nod hyn yw eu helpu i fynegi teimladau na allan nhw eu rhoi mewn geiriau.

E-bostiwch lettingthefuturein@nspcc.org.uk am fwy o wybodaeth

Hunanladdiad a hunan-niweidio

Ewch i Mae angen help arnaf nawr! os ydych yn chwilio am gyngor ar unwaith ar gefnogi plentyn neu berson ifanc.

Mae Harmless yn arbenigo mewn hunan-niweidio a hunanladdiad.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau fel taflenni, llyfrynnau a phapurau academaidd ar eu Hyb Adnoddau.

Os ydych chi’n cael meddyliau am ladd eich hun neu’n poeni am berson ifanc a allai fod, gallwch gysylltu â HOPELINEUK am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.

Ar agor 9 am – 10pm yn ystod yr wythnos, 2pm – 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc.

  • Ffoniwch 0800 068 4141
  • Tecstiwch 07860 039967
  • E-bostiwch pat@papyrus-uk.org am ymateb o fewn 24 awr

Mae hefyd yn darparu adnoddau defnyddiol.

Mae’r llyfr gwaith hunangymorth hwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar hunan-niweidio.

Yn bwysicaf oll, mae’n cynnig technegau a dulliau i bobl ifanc i’w cadw’n ddiogel ac i helpu i leihau ymddygiad hunan-niweidiol yn ogystal â sut i gael cymorth a pha gymorth sydd ar gael.

Gallwch naill ai ei gwblhau ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo er mwyn iddo allu cynnig cymorth i chi.

Cyngor da ac awgrymiadau i ysgolion ynghylch hunan-niweidio

Sefydliadau gwybodus am drawma

Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arferion gwybodus am drawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.