Deprecated: Optional parameter $obj_array declared before required parameter $key is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1140

Deprecated: Optional parameter $post_id declared before required parameter $file_id is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1462
Gorbryder a phryder – CYPF Cymraeg

Rydym oll yn teimlo’n orbryderus neu’n bryderus weithiau. Gorbryder yw’r teimlad a gewch pan fyddwch yn poeni neu’n ofnus am rywbeth.

Mae’n arferol teimlo’n bryderus pan fydd newidiadau mawr yn digwydd yn eich bywyd, fel dechrau ysgol newydd.

Gall y teimladau hyn fod yn broblem os nad ydynt yn mynd i ffwrdd ac maent yn ei wneud yn anodd i chi wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau, fel unrhyw hobïau neu weld eich ffrindiau. Gallai hyn wneud i chi deimlo’n drist neu’n isel.

Sut deimlad yw e?

Gall gorbryder neu bryder:

  • Teimlo’n annifyr ac yn anodd stopio
  • Teimlo’n gryf iawn ac yn para am amser hir
  • Gwneud hi’n anodd anadlu, gwneud i chi deimlo’n sâl neu roi cur pen i chi
  • Gwneud i chi roi’r gorau i wneud pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n bryderus
  • Gwneud hi’n anodd i chi gysgu
  • Ei gwneud hi’n anodd i chi wneud y pethau rydych fel arfer yn mwynhau gwneud

Bydd y teimladau hyn yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Sut alla i gael help

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i helpu gyda theimladau o bryder:

  • Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am sut rydych chi’n teimlo
  • Ysgrifennwch i lawr neu tynnwch lun yn dangos sut rydych chi’n teimlo
  • Rhowch gynnig ar rai o’r gweithgareddau hyn i’ch helpu i deimlo’n well
  • Gofynnwch am help ar-lein o’n rhestr o wefannau a argymhellir