Deprecated: Optional parameter $obj_array declared before required parameter $key is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1140

Deprecated: Optional parameter $post_id declared before required parameter $file_id is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1462
Teimlo’n wahanol – CYPF Cymraeg

Mae’n naturiol i fod eisiau teimlo fel ein bod ni’n perthyn. Weithiau pan fyddwn ni’n teimlo’n wahanol i bobl eraill, efallai y byddwn ni’n teimlo fel pe na baem yn ffitio.

Gall hyn wneud i chi deimlo’n bryderus, yn ddryslyd neu’n unig.

Gall pobl deimlo’n wahanol am sawl rheswm. Mae hyn yn cynnwys lliw croen, crefydd, bod yn LHDTC+, bod ag anabledd, gofalu am bobl eraill neu deimlo fel nad ydynt yn perthyn.

Mae’n iawn i fod yn wahanol ac mae’n iawn i fod yn chi eich hun.

Nid yw bod neu deimlo’n wahanol i bobl eraill yn golygu bod problem gyda chi neu’ch iechyd meddwl. Fodd bynnag, gall unrhyw effeithiau gwael o deimlo’n wahanol effeithio arnoch chi.

Mae llawer o bobl yn poeni eu bod yn teimlo’n wahanol, yn enwedig wrth iddynt dyfu lan.

Siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu os ydych chi’n teimlo’n wahanol. Efallai y byddwch yn synnu faint ohonynt sydd wedi teimlo’r un fath. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi siarad am eich teimladau gyda rhywun arall rydych chi’n ymddiried ynddo.

Os yw rhywbeth yn peri pryder gwirioneddol i chi, gallech hefyd siarad â rhywun fel eich meddyg neu gwnselydd yn yr ysgol.

Gall fod yn anodd cofio hyn os ydych yn teimlo’n drist am deimlo’n wahanol, ond y pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n wahanol hefyd yw’r pethau sy’n eich gwneud chi y person ydych chi.