Deprecated: Optional parameter $obj_array declared before required parameter $key is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1140

Deprecated: Optional parameter $post_id declared before required parameter $file_id is implicitly treated as a required parameter in /var/www/vhosts/cypf-neurodevelopmental.spindogs-dev7.co.uk/uat/plugins/multisite-post-duplicator/inc/mpd-functions.php on line 1462
Sensitifrwydd Synhwyraidd – CYPF Cymraeg

Prosesu synhwyraidd yw gallu’r ymennydd i ddehongli, trefnu ac ymateb yn briodol i wybodaeth a dderbynnir gan yr wyth system synhwyraidd yn y corff. Mae’n ymateb awtomatig, sy’n ein helpu i ymdopi â holl ofynion yr amgylchedd dyddiol. Mae’r holl wybodaeth a dderbynnir am y byd yn dod atom o’n synhwyrau h.y., blas, arogl, golwg, sain, hefyd o’n synnwyr cyffwrdd, symud, grym disgyrchiant a sefyllfa’r corff.

Mae gan bob un o’n synhwyrau dderbynyddion sy’n casglu gwybodaeth sy’n cael ei hanfon at ein hymennydd i’w rhoi at ei gilydd a’i deall. Mae celloedd yn ein croen yn anfon gwybodaeth am gyffyrddiad ysgafn, poen, tymheredd a phwysau. Mae ein clust fewnol yn canfod symudiad a newidiadau yn safle ein pen. Mae derbynyddion yn ein cyhyrau, tendonau a chymalau yn rhoi ymwybyddiaeth i ni o sefyllfa’r corff. Mae gan ein horganau mewnol dderbynyddion sy’n ein galluogi i adnabod ein cyflwr mewnol e.e. pan fyddwn yn sychedig, yn llwglyd neu’n llawn, pan fydd angen i ni ddefnyddio’r toiled, pan fyddwn wedi blino, yn teimlo’n ddideimlad, yn teimlo’n boeth neu’n oer.

Mae’r wyth system synhwyraidd yn cynnwys:

  • Gweledol (golau, tywyllwch, lliw, symud)
  • Clywedol (sain, traw, cyfaint sŵn)
  • Cyffyrddol (teimladau cyffwrdd)
  • Arogleuol
  • Blasol
  • Cynteddol (symudiad a chydbwysedd)
  • Propriodderbyniaeth (yn ein galluogi i nodi safle ein corff yn y gofod, lleoliad ein coesau a’n corff heb edrych)
  • Mewndderbyniaeth (synhwyrau mewnol sy’n ein galluogi i adnabod ein cyflwr mewnol e.e. pan fyddwn yn llwglyd, yn sychedig, angen y toiled)